Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 21 Mai 2013

 

 

 

Amser:

09:00 - 10:50

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:

 

http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_400000_21_05_2013&t=0&l=cy

 

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Mike Hedges

Julie Morgan

Jenny Rathbone

Aled Roberts

Jocelyn Davies

Sandy Mewies

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Tom Jackson (Clerc)

Daniel Collier (Dirprwy Glerc)

Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1    Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

2    Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ a ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’

2.1 Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Archwilydd Cyffredinol Cymru roi cyngor i’r Pwyllgor ar ymatebion Llywodraeth Cymru i adroddiadau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ‘Cyllid Iechyd’ a ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid Iechyd ar ôl mis Mehefin 2013. 

 

2.3 Nododd y Pwyllgor y croesgyfeirio rhwng ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru’ a’r ymchwiliad ‘Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd’. Cytunodd i wahodd Llywodraeth Cymru i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn yr hydref.

 

 

 

</AI2>

<AI3>

3    Papurau i'w nodi

                 

 

 

</AI3>

<AI4>

4    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

</AI4>

<AI5>

5    Sesiwn friffio ar y materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion cyfreithiol sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i broses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen.

 

 

</AI5>

<AI6>

6    Trafod cymorth i'r Pwyllgor

6.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cymorth i’r Pwyllgor.

 

 

</AI6>

<AI7>

7    Argyfyngau Sifil yng Nghymru – Ystyried yr adroddiad drafft

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Argyfyngau Sifil yng Nghymru’ a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

</AI7>

<AI8>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>